Mark Drakeford
Fe fydd £6.7m yn cael ei fuddsoddi mewn system dechnoleg newydd er mwyn uno systemau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y buddsoddiad er mwyn ei gwneud hi’n haws i rannu gwybodaeth rhwng gwahanol wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gyflym.
Bydd y system newydd yn caniatáu i wasanaethau iechyd sicrhau bod gwasanaethau a chymorth ar gyfer unigolion, teuluoedd a chymunedau’n cael ei ddarparu’n fwy effeithiol.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd yr ardal gyntaf i ddefnyddio’r system, yn y gobaith y bydd pob sefydliad gofal cymdeithasol ac iechyd yng Nghymru yn elwa arno yn y pen draw.
‘Ymateb i alw’
Hanfod y system fydd asesu’r proses driniaeth y claf a thynnu sylw gweithwyr at ddata allweddol a fydd yn helpu i roi triniaeth effeithlon.
“Datblygwyd y system newydd hon mewn ymateb i’r angen cynyddol i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol,” meddai’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.
“Bydd y system newydd yn ei gwneud yn haws i’r gwasanaethau hynny gydweithio i gynnig gwasanaethau a chymorth gwell i unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.”
Mae’r buddsoddiad yn rhan o’r pecyn o gyllid cyfalaf o £14.9m a gyhoeddwyd ym mis Ionawr gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y GIG.