Mae pump o fanciau mwyaf y byd – gan gynnwys Barclays – wedi cael dirwyon o gyfanswm o £3.7 biliwn am ddylanwadu’n annheg ar y farchnad gyfnewid.

Cafodd y dirwyon eu cyflwyno gan awdurdodau yn yr Unol Daleithiau a Phrydain yn sgil darganfyddiad bod y banciau – JPMorgan, Barclays, Citigroup, RBS a UBS – wedi cyfathrebu a’i gilydd cyn newid prisiau’r farchnad.

Barclays fydd yn derbyn y ddirwy fwyaf o £1.53 biliwn am na wnaeth gytuno i dalu dirwyon mewn achos ym mis Tachwedd. Bydd hefyd yn diswyddo wyth gweithiwr fu’n rhan o’r helynt.

Bydd yn rhaid i’r RBS  dalu £669 miliwn i awdurdodau’r UD a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Dywedodd yr FCA bod y banciau wedi creu ystafell drafod ar y we er mwyn penderfynu ar brisiau.

“Dyma enghraifft o roi’r cwmni o flaen ei gwsmeriaid, sydd wedi tanseilio enw da system gyllidol Prydain,” meddai’r FCA ynglŷn â banc Barclays.