Fe fydd 360 o swyddi yn cael eu colli o fewn gweithlu Dŵr Cymru dros y bum mlynedd nesaf, cyhoeddodd y cwmni heddiw.

Mae’n golygu y bydd 10% yn llai o bobol yn gweithio i’r cwmni erbyn 2020.

Yn sgil bwriad i leihau biliau i gwsmeriaid a chydymffurfio a thargedau newydd Ofwat, mae’r cwmni wedi gorfod gwneud toriadau gwerth £56 miliwn.

Mae Ofwat wedi gofyn i gwmnïau dwr wneud rhagor o welliannau effeithlonrwydd.

Y gred yw bod tua 250 o staff eisoes wedi dangos diddordeb mewn ymddiswyddo’n wirfoddol.

‘Gwasanaeth mwy hyblyg’

Ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru yn cyflogi tua 3,000 o bobol ledled Cymru.

Meddai llefarydd: “Mae aelodau undeb wedi pleidleisio o blaid y cynigion – dros 80%. Bydd y cytundeb newydd yn gymorth i ddarparu gwasanaeth mwy hyblyg i gyrraedd disgwyliadau’r cwsmeriaid.”