Yn dilyn sawl achos amheus diweddar yn ardal y Rhath, Caerdydd, mae’r heddlu yn rhybuddio bod lladron yn cynllwynio i dargedu pobol oedrannus.

Mae swyddogion wedi gofyn i drigolion yr ardal, a gweddill Caerdydd, i fod yn wyliadwrus iawn wedi i ddynion gymryd arnyn nhw eu bod yn cynnal gwaith ffordd ar strydoedd gan ofyn cwestiynau personol ac am rifau ffôn gan bobol sy’n byw yno.

Ymhen amser, mae trigolion wedi derbyn galwadau ffôn gan bobol sy’n honni i fod yn swyddogion heddlu.

“Mae achosion fel hyn yn eithaf prin, ond maen nhw’n digwydd mewn clwstwr, cyn i’r rhai sy’n gyfrifol ddiflannu am gyfnod,” meddai’r Ditectif Rhingyll Chris Hathway.

“Nid ydym ni am ddychryn pobol, ond mae angen eu rhybuddio i fod yn ymwybodol o’r bygythiad.”

Mae’r heddlu yn cynghori pobol sy’n meddwl eu bod yn cael eu twyllo yn y fath sefyllfa i:

  • Beidio agor y drws i unrhyw un amheus;
  • Fod yn barod i reoli’r sefyllfa a pheidio bod ofn gofyn i rywun adael eich tir;
  • Ffonio cymydog neu’r heddlu i adnabod y cwmni honedig neu 101 i roi gwybod i’r heddlu am achos amheus.