David T C Davies
Mae’r AS Ceidwadol David T C Davies, sy’n cynrychioli Trefynwy, wedi tyngu llw i’r Frenhines yn Gymraeg mewn seremoni yn Senedd San Steffan.
Fe ddarllenodd y llw yn Gymraeg ar ôl ei ddarllen yn Saesneg o flaen ei gyd-aelodau, er mwyn cael ei dderbyn yn swyddogol i Dy’r Cyffredin.
Mae David Davies yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae’n dychwelyd i’w sedd fel cynrychiolydd ardal Trefynwy ar ôl ei chynrychioli ers 2005.
Yn ystod y seremoni, mae gan ASau ddewis o dyngu llw yn Saesneg, Cymraeg, Gaeleg a Chernyweg.
Wedi iddo orffen ei araith fer, dywedodd wrth ei gyd-aelodau: “Rydych chi nawr yn gwybod pwy i bleidleisio drosto pan mae swydd Cadeirydd y Pwyllgor Cymraeg yn cael ei chynnig.”
Yr aelod ieuengaf
Yn ogystal â derbyn cyn-ASau, mae Senedd San Steffan wedi croesawu ei Aelod Seneddol ieuengaf ers canrifoedd wedi i Mhairi Black o’r SNP dyngu llw yn swyddogol.
Roedd y ferch 20 oed, sy’n astudio gwleidyddiaeth, yn ymuno a gwleidyddion eraill i dyngu llw, wythnos cyn Agoriad y Senedd.
Cafodd ei hethol i gynrychioli ardal Paisley a de Renfrewshire ar 7 Mai.
Y llw
Wrth dyngu llw mae’r ASau’n gorfod darllen:
Yr wyf yn addo, trwy gymorth y Goruchaf, y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i’w Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth, ei hetifeddion a’i holynwyr, yn ôl y Ddeddf, yn wyneb Duw.