Mae person oedrannus wedi marw ar ôl i gar daro wal yn Llanelli neithiwr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Thomas y dref oddeutu 11 o’r gloch.
Roedd dyn a dynes yn y car.
Cafodd un ohonyn nhw eu lladd, ac mae’r llall yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.