Glyn Davies
Roedd gan un pleidleisiwr yn Sir Drefaldwyn ddull unigryw o nodi ei hoff ymgeisydd ar y papur pleidleisio – trwy dynnu llun pidyn yn y blwch.

Llwyddodd y Ceidwadwr Glyn Davies, 71, i ddal ei afael ar y sedd ar ôl ennill 45% o’r bleidlais.

Dywedodd Glyn Davies fod y pleidleisiwr wedi cynnig un o atgofion gorau’r noson ar ôl i’w bleidlais gyfrif.

Yn ôl Glyn Davies, roedd y fuddugoliaeth yn felysach oherwydd ymdrech y Democratiaid Rhyddfrydol mewn brwydr ffyrnig am y sedd.

Ar ei dudalen Facebook, dywedodd yr ymgeisydd llwyddiannus: “Penderfynodd un pleidleisiwr greu darlun manwl o bidyn yn hytrach na rhoi croes yn fy mlwch ar un papur pleidleisio.

“Yn anhygoel, gan ei fod wedi’i ddarlunio’n daclus o fewn llinellau’r blwch, roedd y swyddog etholiadau’n ei ystyried yn bleidlais ddilys.

“Dw i ddim yn sicr fod y pleidleisiwr am iddi gyfrif, ond dw i’n ddiolchgar.

“Pe bawn i’n gwybod pwy oedd e neu hi, byddwn i’n hoffi diolch iddo neu iddi.”