David Cameron tu allan i 10 Downing Street wrth iddo ddechrau ei ail dymor fel Prif Weinidog
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud bod Prydain “ar drothwy rhywbeth arbennig” wrth iddo ddychwelyd i Stryd Downing â llywodraeth fwyafrifol.

Cyrhaeddodd y Ceidwadwyr y nod o 326 o seddi tra bod Cameron yn ymweld â’r Frenhines i gynnig sefydlu llywodraeth fwyafrifol.

Ar y diwrnod y mae tri o’r arweinwyr – Nick Clegg, Ed Miliband a Nigel Farage – wedi cyhoeddi eu hymddiswyddiad, talodd Cameron deyrnged i Clegg a Miliband.

Ond wrth edrych tua’r dyfodol, ychwanegodd Cameron: “Gallwn wneud Prydain yn wlad lle mae bywyd da o fewn cyrraedd pawb sy’n barod i weithio a gwneud y peth iawn.”

Dywedodd Cameron fod ei blaid yn barod i gynnig refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, yn unol ag addewidion ei blaid yn eu maniffesto.

“Fel y dywedais yn oriau mân y bore ma, byddwn yn llywodraethu fel plaid un genedl, un Deyrnas Unedig.

“Mae hynny’n golygu sicrhau bod yr adferiad hwn yn cyrraedd pob rhan o’n gwlad o’r gogledd i’r de, o’r dwyrain i’r gorllewin.”

Datganoli

Wrth gyfeirio at Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, addawodd David Cameron y byddai’r Ceidwadwyr yn sicrhau cytundeb datganoli teg.

“Mae llywodraethu gyda pharch yn golygu sicrhau bod gan wledydd ein Deyrnas Unedig eu llywodraethau eu hunain yn ogystal â llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r ddwy yn bwysig.

“A gyda’n cynlluniau ni, bydd llywodraethau’r gwledydd hyn yn dod yn bwerus gyda chyfrifoldebau ehangach.

“Gyda’n gilydd, gallwn wneud Prydain Fawr yn fwy fyth.”

Cabinet newydd

Y prynhawn ma mae David Cameron wedi bod yn cyhoeddi rhai o aelodau blaenllaw ei Gabinet newydd.

Mae George Osborne wedi cael ei ail-benodi’n Ganghellor a Theresa May yn parhau’n Ysgrifennydd Cartref.

Fe fydd Philip Hammond hefyd yn parhau yn Ysgrifennydd Tramor, a Michael Fallon yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Amddiffyn.

Mae George Osborne hefyd wedi cael y teitl Prif Ysgrifennydd Gwladol, sef rol Dirprwy Brif Weinidog.

Mae’n debyg y bydd David Cameron yn aros tan ddydd Llun cyn cyhoeddi gweddill aelodau ei Gabinet.