Mae un o’r etholiadau agosaf mewn degawdau wedi cychwyn ar ei diwrnod llawn olaf o ymgyrchu, gyda gwleidyddion yn gobeithio perswadio etholwyr hyd at yr unfed awr ar ddeg.

Gyda sawl arolwg barn yn parhau i ddangos fod y ras yn mynd i fod yn un agos rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr, mae disgwyl i arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ddweud heddiw ein bod ni “ar fin profi cwymp yr hen system ddwy-blaid”.

Bydd David Cameron yn ymweld â Chymru am y trydydd tro yn yr ymgyrch fel rhan o’i wibdaith 36 awr o amgylch y DU.

Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn ymgyrchu dros y Blaid Lafur ym Mro Morgannwg tra bydd Kirsty Williams yn teithio’r canolbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Wrth annerch rali noswyl yr etholiad yng Nghaerfyrddin – safle buddugoliaeth gyntaf Plaid Cymru  yn San Steffan bron i hanner canrif yn ôl – fe fydd Leanne Wood yn dweud y gall Cymru ymddiried yn ei phlaid i ennill dros Gymru.

Bydd hi hefyd yn dweud fod gan bobl Cymru’r cyfle i roi’r genedl wrth galon agenda’r DU trwy gefnogi ymgeiswyr lleol Plaid Cymru ledled y wlad.

‘Drws cefn’

Mae disgwyl i David Cameron ddweud y byddai pleidlais i’r Torïaid yn cadw’r wlad ar “y ffordd i ddyfodol mwy disglair”, a bydd yn rhybuddio y byddai cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol neu UKIP yn caniatáu Llafur i mewn i Rif 10 trwy’r “drws cefn”.

Ond dywedodd Ed Miliband y byddai clymblaid newydd rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn peri “risg mawr i deuluoedd sy’n gweithio” a dywedodd ei fod yn “optimistaidd” mai fo fydd y Prif Weinidog nesaf.

Mae Nick Clegg yn parhau gyda’i daith 1,000 milltir o Land’s End i John O’Groats i roi hwb i ymgyrch Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw a bydd yn dweud mai dim ond ei blaid fyddai’n darparu llywodraeth “ddiogel, sefydlog a theg” mewn partneriaeth ag un o’r prif bleidiau eraill.

Bydd arweinydd yr SNP Nicola Sturgeon yn annog Albanwyr i ddefnyddio’r “oriau a munudau gwerthfawr i wneud yn siŵr fod llais yr Alban yn cael ei glywed”.

UKIP

Ac mae Nigel Farage o UKIP wedi ‘sgwennu ym mhapur newydd yr Express heddiw fod “pob pleidlais i UKIP yn bleidlais “dros newid: newid cyfeiriad ein gwlad, ond hefyd newid yn ein system bleidleisio gan nad yw’r un sydd gennym yn gweithio mwyach”.

Roedd Nigel Farage hefyd wedi gorfod wynebu cwestiynau newydd am farn eithafol rhai o ymgeiswyr ei blaid ar ôl i Robert Blay gael ei wahardd am ddweud y byddai’n “rhoi bwled” yn ei wrthwynebydd Torïaidd, Ranil Jayawardena, os fyddai’n dod yn brif weinidog Asiaidd cyntaf y DU.

Mae ymgeisydd arall, John Leathley, wedi ymddiheuro am wneud sylwadau sarhaus am newyddiadurwraig.

Arolwg

Mae arolwg barn Survation ar gyfer y Mirror wedi rhoi’r Blaid Lafur ar 34% a’r Ceidwadwyr ar 33%, tra bod arolwg ComRes ar gyfer ITV News a’r Daily Mail wedi rhoi’r Torïaid ar y blaen o dri phwynt ar 35% tra bod Llafur wedi gostwng i 32% – ac mae arolwg YouGov ar gyfer The Sun yn dangos bod y ddwy blaid  ar 34%.