Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion
Gruff Rhys, 9 Bach, Yws Gwynedd, Ifan Dafydd a Band Pres Llareggub yw rhai o’r artistiaid Cymraeg fydd yn perfformio yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion eleni.

Maen nhw’n ymuno a’r grŵp pop-electro Metronomy, y DJ Mark Ronson a Belle & Sebastian yn yr ŵyl ar 3, 4 a 5 Medi.

Ar y llwyfan Cymraeg, fe fydd Estrons, Huw M, The Gentle Good, Titus Monk, Y Ffug a Palenco hefyd yn perfformio.

Y cyflwynydd Huw Stephens a’r cerddor John Rostron, trefnwyr Gŵyl Sŵn, sydd wedi dewis pa artistiaid Cymraeg fydd yn cael lle ar y Llwynypia eleni.

Fe wnaeth bron i 14,000 o bobol heidio i’r pentref Eidalaidd ger Porthmadog bob nos y llynedd ac mae’r trefnwyr yn gobeithio am yr un llwyddiant eleni.