Mae dau ddyn a gafodd eu harestio yn dilyn protestiadau yng Nghaerdydd brynhawn ddoe wedi cael eu cyhuddo o droseddau treisgar.

Mae Joshua Howe, 25, a Peter Simpson, 30, wedi cael eu cadw yn y ddalfa, ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yfory.

Cafodd y ddau eu harestio am ymddwyn yn groes i’r drefn gyhoeddus ac o ymosod ar blismon.

Cafodd y brotest yr oedden nhw’n rhan ohoni ei threfnu gan griw o bobol o’r enw Anarchwyr De Cymru.

Roedden nhw wedi mynd i mewn i fanc HSBC ar Stryd y Frenhines, gan achosi gofid a phryder i staff a chwsmeriaid.