Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â’r drefn gyhoeddus, ac o ymosod ar blismon, yn ystod gorymdaith brotest yng Nghaerdydd heddiw.
Roedd y brotest wedi’i threfnu gan grŵp sy’n galw’u hunain yn Anarchwyr De Cymru.
Dywed yr heddlu bod y mwyafrif o’r protestwyr wedi cymryd rhan heddychlon, ond bod grŵp ohonyn wedi mynd i mewn i fanc HSBC ar Stryd y Frenhines lle buon nhw’n achosi gofid a phryder i staff a chwsmeriaid.
Mae’r heddlu’n dal i ymchwlio i’r digwyddiad er mwyn penderfynu a gafodd unrhyw droseddau eraill eu cyflawni ac yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Stryd y Frenhines y prynhawn yma.
Meddai llefarydd ar ran yr heddlu:
“Mae Heddlu De Cymru’n cydnabod yr hawl i brotestio heddychlon a byddwn yn gweithio gyda phrotestwyr i hwyluso unrhyw brotest gyfreithlon gan sicrhau diogelwch y cyhoedd.”