Huw Prys Jones yn trafod y ddadl deledu rhwng arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru neithiwr
O farnu ar sail ymateb y gynulleidfa, mae’n amlwg mai Owen Smith, llefarydd Llafur Cymru, oedd collwr diamheuol y ddadl neithiwr.
Roedd hyn yn gwbl haeddiannol hefyd. Ar lawer ystyr roedd ei agwedd yn ymgorfforiad o’r hyn sydd waethaf ynglŷn â Llafur Llundain, a’i ddadleuon arwynebol yn llawn o’r math o ystyrdebau gwag sy’n sarhau deallusrwydd y gynulleidfa.
Diddorol oedd clywed yr ochneidiau dirmygus wrth iddo fynd ymlaen ac ymlaen am y gwyrthiau oedd am gael eu cyflawni efo’r holl arian yr oedd y ‘mansion tax’ am ei godi.
Ar y llaw arall, cafwyd perfformiadau cryf gan Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Roedd Kirsty Williams yn swnio’n ddigon clodwiw, er bod amhoblogrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn o bryd yn gwneud ei thasg yn bur amhosibl. Diflas ar y naw oedd Nathan Gill ar ran Ukip, dyn sydd heb arlliw o bersonoliaeth liwgar ei arweinydd, ac all rhywun ond teimlo ei fod union y math o fewnfudwr y byddai’n well o lawer i Gymru hebddo. Ac mae’n debyg mai gorau po leiaf a ddywedwn i am gyfraniadau’r hynod Pippa Bartolotti ar ran y Gwyrddion …
Ergyd Leanne
Mi fyddwn i’n dweud mai yn y ddadl neithiwr y taniodd Leanne Wood ei hergyd orau yn yr holl ddadleuon teledu y mae wedi cymryd rhan ynddynt.
Llwyddodd i dynnu Owen Smith yn ddarnau pan wnaeth ef ei herio i ateb a fyddai ASau Plaid Cymru’n ‘gadael llywodraeth Dorïaidd drwy’r drws cefn’ wrth wrthod cefnogi rhaglen llywodraeth Lafur.
“Rydych chi’n cymryd yn ganiataol y ffordd y mae pleidleisiau Plaid Cymru am fynd – yn union yr un fath ag ydych chi wedi cymryd pobl Cymru’n ganiataol dros ddegawdau lawer,” meddai Leanne Wood wrth ei ateb.
“Dw i’n meddwl bod amser cymryd pobl yn ganiataol wedi dod i ben, Owen Smith.”
Roedd y ffordd y cafodd hyn gymeradwyaeth frwd y dorf yn dangos bod yr ergyd hon wedi taro deuddeg.
Yr hyn oedd yn gwneud ei sylwadau’n fwy diddorol oedd mai dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru ymateb i’r Blaid Lafur fel hyn drwy’r ymgyrch.
Hyd yma, mae Plaid Cymru fel petai wedi mynd allan o’i ffordd i ddangos y byddai’n ffafrio Llywodraeth Lafur ac y byddai’n gwneud popeth i rwystro llywodraeth Dorïaidd.
Mae gwendidau sylfaenol wedi bod i’r agwedd hon. I ddechrau, mae iddi’r potensial o wanhau gallu’r Blaid i daro bargen galed yn y senedd os yw Llafur yn gwybod na fydd yn cefnogi’r Torïaid dan unrhyw amgylchiadau. Ac yn bwysicach na hynny, mae’n cadarnhau dadl Llafur eu bod nhw’r lleiaf o ddau ddrwg.
Ar hyn y blynyddoedd, mae Llafur wedi sylfaenu llawer iawn o’i apêl ar greu bwgan o’r Torïaid, ac mai hi yn unig a all amddiffyn pobl rhagddyn nhw.
Yn y pen draw, fydd Plaid Cymru ddim yn argyhoeddi pobl Cymru i’w chefnogi os na fydd hi’n gallu eu hargyhoeddi fod y ddwy blaid fawr cyn waethed â’i gilydd.
Sylwadau Miliband
Yn eironig, cafodd Plaid Cymru help annisgwyl i feithrin agwedd mwy heriol at Lafur gan Ed Miliband yn y ddadl deledu nos Iau.
Byddai’n well ganddo, meddai, beidio â bod yn Brif Weinidog na chydweithio â’r SNP. Ar un ystyr, mae rhywun yn deall ei gymhellion dros siarad fel hyn. Ond sut mae agwedd o’r fath yn gyson â phryder honedig Llafur am y trueiniaid sy’n dibynnu ar fanciau bwyd ac sy’n cael eu taro gan y dreth llofftydd?
Roedden ni eisoes yn gwybod nad oes dim i’w ddewis rhwng y ddwy blaid o ran gwastraffu’r biliynau ar Trident, ond mae ei ddatganiad nos Iau yn codi amheuon dwfn am ymrwymiad Llafur i helpu’r tlodion yn ogystal.
Cyfeiriad newydd?
Roedd y ffordd y gwnaeth Leanne Wood ymdrin ag Owen Smith neithiwr yn dangos y ffordd at gyfeiriad newydd a miniocach i’w phlaid. Mae angen iddi fanteisio i’r eithaf ar agweddau trahaus Llafur os am danseilio’u hygrededd yng Nghymru.
Mae’n wir y byddai angen mwy o ddaeargryn nag sydd wedi digwydd yn yr Alban hyd yn oed i Blaid Cymru gael gobaith am fwy na’r dyrnaid o seddau y mae’n eu targedu. Ond gallai agwedd fwy ymosodol at Lafur ei helpu i gynyddu ei siawns o gipio’i seddau targed.
Mae’n holl bwysig hefyd y bydd gan ei Haelodau Seneddol hynny ag sy’n bosibl o hyblygrwydd i daro’r fargen orau i Gymru yn y senedd newydd.
Mae’n wir fod Plaid Cymru wedi ymrwymo i beidio â ffurfio llywodraeth gyda’r Torïaid – sy’n gwbl ddealladwy.
Ond beth os mai’r Torïaid fydd y blaid fwyaf ar ôl dydd Iau (rhywbeth cwbl realistig) a’i bod yn barod i gynnig consesiynau pellach i Gymru yn gyfnewid am ymatal mewn pleidlais o hyder? A bod y consesiynau hynny’n well na dim byd y byddai Llafur yn barod i’w cynnig?
Yr hyn a ddangosodd Leanne Wood neithiwr oedd bod mwy o barch i’w ennill trwy daro’n ôl yn erbyn Llafur na thrwy ildio modfedd i’w bygythiadau.