Mae Plaid Cymru’n galw ar i reilffordd gogledd Cymru gael ei chynnwys yn rhwydwaith cysylltiadau trafnidiaeth allweddol yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd John Rowlands, ymgeisydd y Blaid yn etholaeth Ynys Môn, y byddai statws rhyngwladol o’r fath yn agor y drws i gymorth ariannol o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae cronfeydd Ewropeaidd yn cynnig potensial mawr i economi gogledd Cymru ac mae Plaid Cymru eisiau gwneud yn fawr o hyn,” meddai.
“Byddwn yn parhau i frwydro i gynnwys Cymru yng nghoridorau trafnidiaeth allweddol yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn i ni allu buddsoddi yn ffyrdd a rheilffyrdd gogledd Cymru.
“Wrth gwrs, mae aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i ragolygon economaidd gogledd Cymru, a bydd Plaid Cymru’n gwrthod cynlluniau Ukip a’r Torïaid i’n llusgo ni allan o’r UE.”