Y dinistr ar ôl y daeargryn yn Nepal yr wythnos ddiwethaf (llun: PA)
Mae llywodraeth Nepal yn apelio ar i gyfranwyr rhyngwladol anfon pebyll a tharpolin ar gyfer y cannoedd o filoedd sy’n ddigartref ôl y daeargryn dinistriol yr wythnos ddiwethaf.
Mae ar y wlad angen 400,000 o bebyll ar unwaith, a dim ond 29,000 o bobl sydd wedi cael rhai hyd yma.
Wythnos ar ôl i’r daeargryn anferth ladd dros 6,600 o bobl a dinistrio dros 130,000 o gartrefi, mae pentrefi anghysbell yn dal allan o gyrraedd unrhyw gymorth.
Mae’r llywodraeth yn apelio hefyd am gyflenwadau sylfaenol o fwyd, gan ddweud yn benodol bod arnyn nhw angen grawn, halen a siwgr.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod y daeargryn 7.8 ar raddfa Richter wedi effeithio ar dros 8 miliwn o bobl mewn rhyw fodd neu’i gilydd – mwy na chwarter poblogaeth y wlad.