April Jones (llun Heddlu Dyfed Powys)
Mae tad April Jones yn rhedeg ras er cof am ei ferch fach bump oed a gafodd ei llofruddio dair blynedd yn ôl.
Mae’r ras, ar Clapham Common yn Llundain y bore yma, wedi ei threfnu i godi arian at yr elusen Missing People, sy’n helpu teuluoedd pobl ar goll.
Roedd April yn chwarae gyda’i ffrindiau ger ei chartref ym Machynlleth ar 1 Hydref 2012 pan gafodd ei herwgipio a’i llofruddio gan Mark Bridger.
“Dw i’n rhedeg yma heddiw dros April ac i godi arian i bobl ar goll, i’w helpu nhw,” meddai Paul Jones, tad April.
“Os yw eich plentyn yn mynd ar goll, mae elusen fel hon yn rhywbeth y gallwch ddibynnu arno, felly mae rhedeg dros yr elusen yma’n golygu popeth i mi.
“Roedden nhw yna i ni, ac fe wnaethon nhw’n helpu ni’n fawr.
“Dydi’r poen byth yn mynd i ffwrdd. Rydych chi’n dysgu addasu iddo a’i droi’n rhywbeth cadarnhaol yn lle negyddol, fel trio gwneud rhywbeth yn enw April – trio helpu pobl eraill.”