Mae pedwar dyn o Gaerdydd wedi cael eu cyhuddo o herwgipio fel rhan o ymchwliad gan yr heddlu i achosion o gaethwasiaeth.

Roedd y pedwar, sydd o ardal Rhymni o’r ddinas, wedi cael eu harestio’r haf diwethaf ar amheuaeth o amrywiaeth o droseddau.

Mae Heddu Gwent wedi cadarnhau bod dyn 58 oed wedi cael ei gyhuddo o ddwy drosedd o herwgipio a phedair trosedd o niwed corfforol, a bod tri dyn – 33, 35 a 38 oed – wedi cael eu cyhuddo o un drosedd o herwgipio.

Mae’r pedwar wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ar 18 Mai.

Cyrch

Dywed yr Ditectif Uwcharolygydd Paul Griffiths fod yr arestiadau’n rhan o gyrch Operation Imperial Heddlu Gwent.

“Mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu i ymchwiliad Operation Imperial sydd wedi bod yn ymchwilio i honiadau o gaethwasiaeth gyfoes, llafur gorfodol a throseddau eraill dros gyfnod o 30 mlynedd,” meddai.

“Mae gwaith y tîm yn parhau ac mae’r troseddau honedig yr ydym yn ymchwilio iddynt yn rhai hynod o ddifrifol.”

Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un sydd ag amheuon o gaethwasiaeth gysylltu â nhw ar 101 neu’r llinell gymorth caethwasiaeth ar 0800 0121 700.