Goodluck Jonathan, arlywydd Nigeria
Mae byddin Nigeria wedi cyhoeddi ei bod wedi achub 234 yn rhagor o ferched o un o gadarnleoedd Boko Haram mewn coedwig yng ngogledd-orllewin y wlad.

Daw hyn â’r cyfanswm sydd wedi cael eu hachub o grafangau’r eithafwyr Islamaidd yr wythnos yma i 677.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl ymosodiad ar y tir gan y fyddin ar ôl cyrchoedd awyr ar wersylloedd Fforest Sambisa dros sy dyddiau diwethaf.

Does neb yn gwybod faint o ferched a phlant yn mae Boko Haram wedi eu herwgipio dros y chwe blynedd ddiwethaf.

Mae arlywydd Nigeria, Goodluck Jonathan, wedi disgrifio Fforest Sambisa fel cadarnle olaf Boko Haram ac mae wedi addo cael y wlad yn gwbl rydd o gadarnleoedd gwrthryfelwyr o’r fath.