Owen Smith
Mae Llafur Cymru’n disgrifio ei chyrch etholiadol y penwythnos hwn fel y mwyaf erioed yn ei hanes.

Mae’n disgwyl y bydd cannoedd o’i haelodau’n ymgyrchu mewn seddau ymylol ledled Cymru, fel rhan o ymgais ledled Prydain i siarad â miliwn yn rhagor o bobl o hyn tan ddydd Iau.

Yn arwain y cyrch fe fydd Owen Smith, cysgod Ysgrifennydd Cymru.

“Yn ystod yr etholiad yma dw i wedi bod ym mhob etholaeth yng Nghymru a dw i erioed wedi gweld etholiad yn cael ei ymladd â’r fath angerdd,” meddai.

“Fe fydd etholwyr Cymru’n allweddol i ganlyniad yr etholiad pwysicaf mewn cenhedlaeth.

“Mae aelodau Llafur eisoes wedi siarad gyda thros bedair miliwn o bobl, ond gallai’r cyrch olaf hwn wneud y gwahaniaeth.

“Dim ond trwy siarad gyda’n cymdogion a’n ffrindiau y gallwn ni sicrhau buddugoliaeth i Lafur.

“Mae’r dewis arall yn rhy ofnadwy i feddwl amdano: deffro ar 8 Mai i lywodraeth Dorïaidd a fydd yn golygu mwy fyth o ddioddef yng Nghymru.”