Arweinydd Llafur, Ed Miliband
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi beirniadu arweinydd Llafur, Ed Miliband, ar ôl iddo ddweud eto neithiwr y byddai’n well ganddo beidio â ffurfio llywodraeth na tharo bargen gyda’r SNP.

“Fyddai neb sydd ag ymrwymiad o ddifrif i wleidyddiaeth flaengar yn ystyried am funud adael y Torïaid i adennill grym yn hytrach na gweithio gyda’r SNP,” meddai Nicola Sturgeon.

“Mae’n amlwg bellach nad yw Ed Miliaband yn rhannu ein ymrwymiad i wleidyddiaeth flaengar.”

Mewn rali yn Glasgow neithiwr, fe wnaeth Ed Miliband ailadrodd ei wrthwynebiad i gydweithio â’r SNP.

“Allwn ni ddim trafod gyda phlaid sydd eisiau torri’r Deyrnas Unedig pan fo arnon ni eisiau adeiladu’r Deyrnas Unedig,” meddai.

Bydd Nicola Sturgeon yn treulio’r penwythnos yn teithio mewn hofrennydd o amgylch etholaethau allweddol yr Alban yn addo y byddai ASau’r SNP yn “ceisio adeiladu cynghreiriau blaengar yn San Steffan a mynnu diwedd ar y toriadau”.