Ni fydd unrhyw erlyniadau troseddol yn sgîl triniaeth claf oedrannus mewn dau ysbyty yn ne Cymru, meddai’r heddlu.

Cafodd Lilian Williams o Borthcawl ei derbyn i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot bedair gwaith rhwng Awst 2010 a Thachwedd 2012, pan fu farw’n 82 mlwydd oed.

Roedd ei theulu’n honni nad oedd hi wedi cael y gofal priodol ac fe wnaethon nhw gŵyn i’r heddlu ym mis Medi 2013.

Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad heddiw fod yr ymchwiliad bellach wedi cael ei gwblhau, ond nad oedd digon o dystiolaeth i fwrw ymlaen ag unrhyw erlyniad troseddol yn erbyn unrhyw unigolyn.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis fod yr heddlu eisoes wedi cyfarfod â theulu Lilian Williams er mwyn esbonio’r penderfyniad iddyn nhw.

Er hynny, mae ymchwiliad ar wahân i fonitro lefelau siwgr yn y gwaed gan nyrsys o fewn y Bwrdd Iechyd wedi arwain at dri o nyrsys yn pledio’n euog i esgeuluso cleifion yn fwriadol – ac un o’r cleifion hynny oedd Lilian Williams.