Mae’r canwr Ben E King, wedi marw yn 76 oed, yn ôl ei asiant.

Fe ddaeth y canwr soul i enwogrwydd gyda band The Drifters cyn iddo fentro ar ei ben ei hun a rhyddhau’r gân boblogaidd, ‘Stand By Me’.

Fe’i ganed yn Benjamin Earl Nelson yng Ngogledd Carolina, a symudodd i Efrog Newydd pan yn blentyn gan ymuno â’r symudiad doo wop.

Ar ôl rhyddhau caneuon poblogaidd fel ‘Save The Last Dance For Me’ a ‘There Goes My Baby’ gyda The Drifters, fe adawodd y grŵp yn 1960.

Roedd ei ddwy sengl unigol cyntaf, ‘Sbanish Harlem’ a ‘Stand By Me’, yn ofnadwy o boblogaidd yn America. Ond daeth ‘Stand By Me’ ddim i frig y siartiau ym Mhrydain tan 1987, ar ôl i’r gân ymddangos mewn hysbyseb teledu ar gyfer jîns Levis.