John Rowlands
Jamie Thomas sydd wedi bod yn sgwrsio â John Rowlands o Blaid Cymru, y chweched mewn cyfres o erthyglau i golwg360 yn holi’r ymgeiswyr yn ras etholiadol Ynys Môn …
Mae’n amser i bobl Môn fod yn gyfrifol am eu ffyniant nhw eu hunain achos dydi’r ynys ddim yn mynd i allu dioddef pum mlynedd arall o doriadau, yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth.
Wrth geisio annog pleidleiswyr i symud oddi wrth y Blaid Lafur, dywedodd John Rowlands wrth golwg360 os na fyddai pobl Môn yn ymladd dros eu hunain, y byddai neb arall yn gwneud.
Albert Owen sydd wedi dal y sedd ers 2001, ond mynnodd ymgeisydd Plaid Cymru y gallai cynrychiolydd newydd wneud byd o wahaniaeth i’r sir.
“Dydi Plaid Cymru ddim wedi ei chlymu i’r pleidiau mawr, ac felly fedrwn ni gydweithio hefo pleidiau eraill yn erbyn y toriadau,” meddai John Rowlands.
“Mae yna ddewis i gael, ac mi allwn ni wneud gwahaniaeth am y tro cyntaf mewn blynyddoedd yn Llundain.”
Toriadau’n taro
Dim ond unwaith yn hanes yr etholaeth y mae ymgeisydd oedd yn ailsefyll wedi methu â chael ei ethol ar Ynys Môn.
Ond mae John Rowlands yn honni bod y toriadau llym o Lundain wedi taro’r awdurdodau lleol ac effeithio ar bobl yr ynys, a bod angen herio’r drefn hynny.
“Mae pobl yn dod i fyny ata i a dweud faint mae’r sefyllfa yma’n effeithio arnyn nhw,” meddai.
“Dim ond tair wythnos sydd wedi bod ers i bobl gael eu bil treth; mae trethi ar yr ynys wedi codi gormod.
“Mae’r gwasanaethau o dan bwysau mawr. Mae’r cynghorwyr, nid dim ond rhai Plaid Cymru, wedi dweud na fedrwn ni barhau efo pum mlynedd arall o’r sefyllfa yma heb golli rhai o’r gwasanaethau sylfaenol.
“Mae hynny’n golygu petai llywodraeth yn cael ei hethol yn Llundain sydd yn parhau hefo toriadau, y byddan ni’n gweld llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, gwasanaethau cymdeithasol ac yn y blaen yn gorfod cau.”
Ble i flaenoriaethu?
Mae pamffled John Rowlands yn cynnwys blaenoriaethau ar lu o faterion mae Plaid Cymru yn credu sy’n effeithio’r ynys, megis trethi busnes, swyddi o ansawdd, prynu’n lleol a chodi pont newydd dros y Fenai.
Siaradodd yr ymgeisydd hefyd am godi trothwy trethi busnes ar yr ynys i annog mwy o fusnesau bach i ddechrau, gan mai sgil-effaith hynny fyddai helpu i greu swyddi.
Ond mae’n rhaid iddo chwerthin wrth i mi ofyn iddo i ehangu ar y blaenoriaethau sydd wedi eu cynnwys yn y pamffledi oherwydd faint o bethau sydd ynddynt, ac mae’n amau a fydd modd cyflawni pob nod.
Ynglŷn â’r bont newydd, dydi hwnnw ddim yn debygol o ddigwydd yn fuan oherwydd yn ddiweddar mae Edwina Hart, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, wedi dweud y bydd hi’n edrych ar y posibilrwydd o agor lôn ychwanegol ar Bont Britannia.
Ond mynnodd John Rowlands bod pont newydd yn rhan o gynlluniau hir dymor Plaid Cymru.
“Yn y pen draw mi fydd yna angen i bont newydd ond rydyn ni’n dallt mai rhywbeth yn y dyfodol fydd hwnnw,” meddai.
“Ond mae o dal yn bwysig i ddatblygiad Ynys Môn felly mae’n rhaid pwyso yn Llundain achos un o’r prif bethau ydi bod rhaid cael buddsoddiad cyhoeddus.”
‘Pleidleisio gyda’r Ceidwadwyr’
Doedd John Rowlands ddim am wneud sylw ynglŷn â’r ymgeiswyr eraill ym Môn yn bersonol, ond fe fynnodd bod gormod o debygrwydd rhwng agenda llymder y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn San Steffan.
“Rydyn ni’n teimlo mai dyma’r cyfle i bobl gael newid yn Ynys Môn, ac iddyn nhw ystyried cefnogi Plaid Cymru o ddifrif fel ein bod ni’n gallu cael mwy o Aelodau Seneddol yn Llundain i wneud gwahaniaeth,” meddai.
“Yn nhermau Llafur maen nhw wedi cytuno hefo’r toriadau ‘ma am bum mlynedd arall – maen nhw wedi pleidleisio hefo’r Ceidwadwyr yn Llundain i gario ‘mlaen hefo’r polisïau yma.
“Dydyn nhw ddim yn cynnig unrhyw beth yn wahanol i’r llywodraeth sydd yn Llundain rŵan.”
Bydd Jamie Thomas yn siarad â’r holl ymgeiswyr yn etholaeth Ynys Môn yn ystod yr ymgyrch.
Gallwch ddarllen ei sgyrsiau ag ymgeisydd UKIP Nathan Gill yma ac yma, ei sgwrs â’r ymgeisydd Ceidwadol Michelle Willis yma, ei sgwrs gyntaf ag ymgeisydd Plaid Cymru John Rowlands yma, a’i sgwrs ag ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Mark Rosenthal yma.