Mae’n debyg fod rhai anifeiliaid y môr yn cael eu heffeithio gan olau artiffisial yn ystod y nos, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgolion Bangor a Chaerwysg.

Yn ôl yr ymchwil a gyhoeddwyd yn Biology Letters gan y Royal Society Journal , fe all golau artiffisial o gymunedau arfordirol a llongau newid cyfansoddiad ecosystemau yn y môr.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr ddefnyddio rafft ar yr Afon Menai i fonitro sut oedd golau artiffisial yn effeithio ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol wrth iddynt chwilio am gynefinoedd addas i setlo, tyfu ac yn atgenhedlu.

Daeth yr ymchwil i’r casgliad fod golau artiffisial yn annog sawl rhywogaeth gyffredin o anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol i gartrefu ar arfordiroedd Prydain, gan gynnwys y tiwblynghyren drumiog (keel worms).

Mae llawer o’r rhywogaethau hyn yn aml yn glynu at strwythurau sydd wedi cael eu gwneud gan ddyn gan achosi problemau mewn marinas, dociau a chyfleusterau dyframaeth.

Roedd y canlyniadau’n dangos bod golau artiffisial – sy’n cael ei ddefnyddio fwyfwy ar yr arfordir – yn gallu tyfu poblogaeth yr anifeiliaid hyn mewn marinas ac iardiau llongau, ond mae hefyd yn newid eu niferoedd yn yr amgylchedd ehangach lle mae’n nhw’n rhan bwysig o’r ecosystem.

Dywedodd Dr Stuart Jenkins o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor: “Mae hwn yn gam cyntaf pwysig wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o’r ffordd y gall golau artiffisial effeithio’r arfordirol morol.

“Dangosodd ein gwaith ymchwil fod lefelau o olau artiffisial, sy’n gyffredin mewn ardaloedd arfordirol trefol, yn gallu cael effeithiau pwysig ar ddatblygiad cymunedau morol sy’n byw mewn dŵr bas.”