Huw Edwards fydd yn cadeirio'r ddadl
Mae arweinwyr y pleidiau Cymreig a chynrychiolwyr Cymru yn San Steffan yn paratoi ar gyfer eu dadl deledu ola’ cyn yr etholiad.
Mewn rhaglen fyw ar BBC One Wales heno, fe fydd Pippa Bartolotti (y Blaid Werdd), Stephen Crabb (Ceidwadwyr), Nathan Gill (UKIP), Owen Smith (Llafur), Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol), a Leanne Wood (Plaid Cymru) yn trafod materion pwysica’ eu hymgyrchoedd.
Y darlledwr Huw Edwards fydd yn cadw trefn ar y cecru gwleidyddol yn Theatr Sherman, Caerdydd.
Gyda’r arolygon barn yn darogan etholiad agos iawn, dyma gyfle olaf y gwleidyddion i ddenu pleidleisiau.