Mae’r Super Furry Animals wedi deffro o drwmgwsg ac yn dod a’u taith cynta’ ers chwe blynedd i Gymru heno.

Mi fyddan nhw’n perfformio tair noson yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd dros y penwythnos ac yna’n symud ymlaen i Glasgow, Manceinion a Llundain.

Yn wreiddiol, roedden nhw wedi bwriadu chwarae pum sioe fyw ond bu’n rhaid ychwanegu mwy o gigs gan fod gymaint o alw am docynnau.

Fe all eu cefnogwyr ddisgwyl clywed hen ffefrynnau fel ‘Northern Lites’, ‘Y Gwyneb Iau’, ‘Hello Sunshine’ a ‘Slow Life’.

Mae’r band hefyd yn ail-ryddhau’r albwm Mwng heddiw, pymtheg mlynedd ers i’r clasur Cymraeg gyrraedd rhif 11 yn siartiau Prydain a gwerthu mwy o gopïau nag unrhyw albwm arall yn yr iaith erioed.