Colin Capp
Mae carcharor wedi cael dedfryd oes wedi iddo lofruddio un o’i gyd-garcharorion yng Nghaerdydd gyda beiro.

Bydd Colin Capp, 23 oed, yn treulio o leiaf 16 mlynedd dan glo am lofruddio Darren Thomas, 45, tra’r oedd o’n cysgu yng ngharchar y brifddinas.

Er ei fod yn gwadu llofruddio, fe benderfynodd rheithgor ddoe ar ôl 30 munud o drafod ei fod yn euog o’r drosedd.