Llun o bencadlys newydd y BBC yng Nghaerdydd
Mae cais cynllunio dadleuol ar gyfer adeiladu pencadlys newydd BBC Cymru yng nghanol Caerdydd wedi cael ei gymeradwyo, er gwaethaf cwynion.

Doedd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd ddim am weld yr adeilad yn Sgwâr Canolog yn cael sêl bendith ar safle gorsaf fws bresennol yn y ddinas nes bod gorsaf fws newydd yn cael ei hadeiladu yn ei lle.

Ond fe gafodd y gwrthwynebiad – oedd yn cael ei gefnogi gan Grŵp Gogledd Orllewin Caerdydd a Defnyddwyr Bws Caerdydd – ei wrthod gan Lywodraeth Cymru ac fe benderfynodd pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd gymeradwyo’r cais brynhawn ddoe.

Bydd y cwmni datblygu Rightacres Property yn dechrau ar y gwaith adeiladu yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Mae hon yn garreg filltir bwysig arall wrth i ni baratoi i ffarwelio â’n hen gyfleusterau yn Llandaf a symud i ganolfan ddarlledu newydd yng nghanol ein prifddinas.”