David Dimbleby, cyflwynydd Question Time
Fe fydd yr olaf o bedair rhaglen deledu arbennig yn cael ei darlledu heno cyn yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai.
Gyda dim ond wythnos i fynd cyn i’r blychau pleidleisio agor mae pedwar ym mhob 10 o bobl yn dweud nad ydyn nhw eto wedi penderfynu pwy fydd yn cael eu pleidlais, yn ôl yr arolwg barn ddiweddaraf.
Fe fydd yr arweinwyr felly yn gwneud un ymdrech olaf i ddenu pleidleiswyr heno ac mae Ed Miliband wedi annog pobl i “roi eu teuluoedd yn gyntaf” ac anwybyddu “addewidion gwag” y Ceidwadwyr.
Daw wrth i’r Ceidwadwyr wynebu pwysau cynyddol i roi manylion ynglŷn â sut y byddan nhw’n torri £12 biliwn o’r gyllideb les os ydyn nhw’n dod i rym.
Roedd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgelu bod y Ceidwadwyr wedi bwriadu torri £8 biliwn ychwanegol yn 2012.
Dywedodd bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi atal eu partneriaid yn y Glymblaid rhag cyfyngu ar gredydau treth i blant a budd-dal plant, a’i fod wedi cymryd y cam anarferol o ddatgelu’r cynlluniau am fod y Torïaid yn ceisio “twyllo pobl Prydain drwy gadw’n ddistaw am doriadau arfaethedig.”
Ychwanegodd: “Efallai y byddan nhw’n rhoi gydag un llaw ond fe fyddan nhw’n cymryd dwywaith yn fwy gyda’r llall.”
Ond dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr na fyddai’r Prif Weinidog na’r Canghellor wedi cefnogi polisiau o’r fath.
Yn y cyfamser, mae David Cameron wedi dweud bod y broses o benderfynu dros bwy i bleidleisio yn cymryd amser am fod pobl eisiau ystyried yn ofalus.
Mae arolwg ComRes ar gyfer y Daily Mail yn awgrymu bod 41% o bobl yn ansicr dros bwy fyddan nhw’n pleidleisio. Mae’n dangos bod Llafur wedi codi tri phwynt ochr yn ochr â’r Ceidwadwyr ar 35%.
Heno fe fydd rhaglen arbennig o Question Time ar y BBC gydag arweinydd Llafur, Ed Miliband, y Prif Weinidog David Cameron, ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg yn cael eu holi ar wahân gan y gynulleidfa.
Fe fydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, Nigel Farage o UKIP, a Nicola Sturgeon o’r SNP yn cymryd rhan mewn darllediadau ar wahân yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.