Mike Parker
Mae ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Mike Parker wedi dweud bod integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol yn rhan hanfodol o weledigaeth ei blaid.

Byddai integreiddio gwasanaethau’n atal mwy o bobol rhag wynebu oedi cyn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, medd Mike Parker.

Fe fyddai’r cynlluniau hefyd yn sicrhau rhagor o adnoddau er mwyn eu hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol fel bod modd i ragor o gleifion dderbyn gofal yn agos i’w cartrefi.

Dywed Plaid Cymru y byddai torri’r rhwystrau rhwng Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yn lleihau rhestrau aros ac yn cryfhau’r Gwasanaeth Iechyd.

‘Targed hawdd’

“Pan fo gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio’n dda gyda’i gilydd, mae cleifion yn cael y gofal a’r gefnogaeth y mae arnynt ei angen mor agos i’w cartrefi ag sydd modd bob cam o’r ffordd.

“Ond ar hyn o bryd, mae’r ffiniau mympwyol sy’n bodoli rhwng gwasanaethau yn arwain at oedi trosglwyddo i ofal, ac y mae diffyg gofal yn y gymuned yn aml yn golygu bod cleifion yn troi’n achosion brys am na allant fynd at y gofal angenrheidiol ynghynt.

“Bu Gofal Cymdeithasol yn hanesyddol yn berthynas dlawd i iechyd, heb feddu ar yr un statws. Mae hyn wedi ei wneud yn darged hawdd i doriadau, ond y cyfan wnaeth hyn oedd arwain at fwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd.

“Mae Plaid Cymru eisiau chwalu’r rhagfuriau diangen hyn fel y gallwn fireinio’r gwasanaeth a rhoi i gleifion y gofal cyson mae arnynt ei angen.

“Trwy integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol gallwn ymdrin â’r problemau hyn, rhyddhau mwy o adnoddau i’w buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd cymunedol, a gwneud yn sicr fod cleifion yn derbyn gofal cyson a chefnogaeth bob cam o’r ffordd.”