Mae merch 15 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ymosod ar ddisgybl yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Bedwas yng Nghaerffili bore ma.

Cafodd merch 15 oed chludo i’r ysbyty am driniaeth ar gyfer anaf i’w hwyneb.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y ferch 15 oed gafodd ei harestio yn cael ei chadw yn y ddalfa a bod cyllell wedi cael ei ddarganfod yn yr ysgol.

Dywed yr heddlu bod swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r ysgol i geisio darganfod amgylchiadau’r digwyddiad.

Mae’n debyg nad oedd unrhyw ddisgyblion eraill yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Mewn datganiad ar wefan yr ysgol dywedodd pennaeth yr ysgol, Peter Ward, bod yr ysgol a’r heddlu wedi delio gyda’r mater yn brydlon a bod cefnogaeth yn cael ei roi i’r holl ddisgyblion.

Ychwanegodd bod “y camau priodol wedi cael eu cymryd i ymateb yn effeithlon i’r sefyllfa.”