Mae cyn bêl-droediwr wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a hanner am drefnu canlyniadau gemau.

Cafwyd Delroy Facey, 35, yn euog yn Llys y Goron Birmingham o gynllwynio i lwgrwobrwyo chwaraewyr eraill i drefnu canlyniadau.

Roedd Facey yn arfer chwarae i Bolton, West Brom a Hull yn yr Uwch Gynghrair.

Clywodd y llys fod Facey wedi cael cynnig £15,000 gan ddau ddyn busnes yn gyfnewid am drefnu canlyniadau.

Ond yn ôl Facey, doedd e ddim wedi cymryd y cynigion o ddifri.

Clywodd y llys fod Facey wedi annog pêl-droediwr arall i ennill “arian hawdd” drwy drefnu canlyniadau, a bod Facey wedi honni bod nifer o dimau’n barod i gymryd rhan yn y cynllwyn.

Dywedodd y barnwr Mary Stacey fod Facey wedi “camddefnyddio’i safle” fel pêl-droediwr blaenllaw.

Cafwyd Moses Swaibu, chwaraewr arall o dde Llundain, yn euog o’r un troseddau, ac fe gafodd ei garcharu am 16 mis.

Wrth ddedfrydu’r ddau ddyn, dywedodd y barnwr fod “tegwch wrth wraidd y byd pêl-droed” a bod ymddygiad y ddau yn groes i’r ysbryd hwnnw.

Mae disgwyl i’r ddau dreulio hanner eu dedfryd yn y carchar a’r hanner arall ar drwydded.