Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi dynes i’w Bwrdd rheoli am y tro cyntaf yn ei hanes.
Cyhoeddodd yr undeb bod dau aelod newydd, Aileen Richards a Tim Griffin, yn ymuno â’r Bwrdd fel cyfarwyddwyr.
Mae gan y ddau brofiad yn arwain cwmnïau rhyngwladol mawr, ac fe fyddan nhw’n cynyddu nifer bwrdd y cyfarwyddwyr i 20.
Mae’r newidiadau’n dilyn penderfyniad yng nghyfarfod blynyddol cyffredinol URC llynedd i ailstrwythuro’r Undeb, a hynny ar ôl adolygiad gan y barnwr Syr Robert Owen.
‘Diddordeb rygbi’
Roedd Aileen Richards yn is-lywydd gweithredol i gwmni Mars, ac yn wreiddiol o Gaerdydd ond wedi gweithio i’r cwmni ers 30 mlynedd bellach ym Mhrydain, Gwlad Belg a’r UDA.
Dywedodd yr URC y byddai Aileen Richards, sydd yn “frwdfrydig dros rygbi Cymru”, yn camu lawr o’r rôl hwnnw ac yn dychwelyd i Lundain yn fuan, gan blethu ei rôl ar Fwrdd yr Undeb gyda’i swydd arall.
“Dw i wrth fy modd mai fi yw’r ddynes gyntaf i gael ei hapwyntio i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru yn 134 mlynedd ei hanes,” meddai Aileen Richards.
“Mae’r rôl yma yn ffordd berffaith i ganolbwyntio fy mrwdfrydedd at rygbi, balchder o fod yn Gymraes, a’r ysfa hwnnw i gyfrannu at fywyd yng Nghymru.”
Gyrfa amrywiol
Mae’r ail berson i gael ei apwyntio i’r Bwrdd, Tim Griffin, yn brif weithredwr i gwmni technoleg Dell UK, a chyn hynny fe fu’n gweithio gyda chwmnïau gan gynnwys Pricewaterhouse Coopers, NCR a’r BBC.
Yn ei ieuenctid fe chwaraeodd rygbi dros Drecelyn yn ogystal â Phont-y-Cymer a thîm dan-23 Sir Fynwy.
“Mae fy ngyrfa ryngwladol i wedi cwmpasu pob math o fusnesau sydd yn gwasanaethu pob math o gwsmeriaid ac mae’n golygu mod i’n gallu cynnig gweledigaeth ar gyfer sawl her,” meddai Tim Griffin.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-gyfarwyddwyr cyn gynted â phosib.”