Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd yn bwrw golwg dros bwy sydd wedi darogan beth …
Ychydig dros wythnos i fynd nes yr etholiad cyffredinol, ac mae’n edrych bron yn sicr nad oes gan Lafur na’r Ceidwadwyr obaith o gipio mwyafrif bellach.
Yma yng Nghymru fe fyddwn ni’n cadw llygad agos ar y 40 etholaeth sydd yma, yn enwedig yn y llond llaw o ardaloedd ble mae disgwyl brwydrau agos tu hwnt.
Ond beth yw’r darogan ar gyfer y pleidiau yng Nghymru? Fydd Llafur yn cynyddu nifer eu seddi, neu a fydd y Ceidwadwyr yn llwyddo i gadw’r rhai sydd ganddyn nhw?
Oes gobaith gan Blaid Cymru i gynyddu ei nifer, ac yw’r Democratiaid Rhyddfrydol dan fygythiad ym mhob un o’u tair sedd? Oes siawns gan UKIP neu’r Gwyrddion ennill yn unrhyw le?
Os oes angen atgoffa arnoch chi, dyma faint o seddi sydd gan bob plaid yng Nghymru ar hyn o bryd – Llafur ar 26, y Ceidwadwyr ar wyth, a Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar dair yr un.
Felly dyma ni wedi casglu rhai o ddarogan yr arbenigwyr a’r cwmnïau arolygu – pa seddi maen nhw’n meddwl allai newid dwylo ar 7 Mai?
Canolfan Llywodraethiant Cymru
Ers rhai misoedd bellach mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, gyda YouGov ac ITV, wedi bod yn rhyddhau polau mwy cyson ar sut mae pobl yn bwriadu pleidleisio yng Nghymru.
Os nad ydych chi’n gyfarwydd â blog guru etholiadau Cymru, Roger Scully, yn dadansoddi’r canlyniadau yma, mi fuaswn i’n argymell yn fawr i chi gael cip.
O ddefnyddio’r polau diweddaraf a chymryd bod y swing yn gyson drwy Gymru, mae’r blog yn awgrymu y bydd tair sedd yn newid dwylo.
Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli Canol Caerdydd (i Lafur) a Brycheiniog a Maesyfed (i’r Ceidwadwyr), ac fe fyddai’r Ceidwadwyr yn colli Gogledd Caerdydd (i Lafur).
Fodd bynnag, wrth ddefnyddio techneg arall o ddadansoddi’r swing cenedlaethol (mae Roger Scully yn esbonio’r gwahaniaeth rhwng y ddau yma), mae un sedd ychwanegol yn newid dwylo.
Byddai Plaid Cymru yn cipio Ceredigion oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol, gan eu gadael nhw â dim un Aelod Seneddol yng Nghymru.
Darlun cyffredinol
Fodd bynnag, darlun cyffredinol gewch chi o Gymru wrth ddefnyddio’r newid yn y polau i geisio darogan seddi.
Mae ambell ffynhonnell arall fel The Guardian a May2015.com yn defnyddio techneg debyg, ac mae canlyniadau’r ddau ar gyfer Cymru’r un peth.
Dim ond un sedd sydd ganddyn nhw yn wahanol i ddarogan (cyntaf) blog Roger Scully, gyda’r ddau yn darogan bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw Brycheiniog a Maesyfed.
Mae hyn eto’n ystyried swing cyffredinol yn hytrach na fesul sedd – er bod y Guardian yn dweud bod y darogan yn seiliedig ar “constituency and national polling”.
Polau Ashcroft
Yr Arglwydd Ashcroft ydi’r unig berson sydd yn cynnal polau cyson o etholaethau unigol, ond yn anffodus prin iawn y mae’n gwneud rhai ar gyfer Cymru.
Mae rhestr lawn o’i ganlyniadau Prydeinig ar ei wefan, ac mae modd gweld pa rai mae wedi ei gynnal yng Nghymru hefyd.
Nôl yn Rhagfyr 2014 fe ddangosodd pôl Brycheiniog a Maesyfed bod y Democratiaid Rhyddfrydol dal ar y blaen i’r Torïaid o 31% i 27%, ac yn yr un mis roedd y Ceidwadwyr ar y blaen i Lafur yn Nwyrain Caerfyrddin a De Penfro o 33% i 29%.
Mae dau o’i bolau o llynedd i’w weld yn cadarnhau awgrym y polau y bydd Llafur yn cipio’r ddwy sedd Caerdydd sydd ddim yn eu meddiant nhw ar hyn o bryd.
Ac roedd ei bôl diweddaraf yng Nghymru, ym Mro Morgannwg ym mis Chwefror eleni, yn awgrymu bod y Ceidwadwyr ar y blaen i Lafur o 38% i 32%.
Beth mae polau Ashcroft yn ei awgrymu yw bod yr “incumbency effect” yn amlwg yn rhai o etholaethau Cymru – ar swing cenedlaethol byddech chi’n disgwyl i Frycheiniog a Maesyfed, a Bro Morgannwg, fod yn agosach, ond mae’r AS presennol wedi adeiladu cefnogaeth bersonol i’w hun.
Mae “other” hefyd yn tueddu i fod yn uwch ym mhob un o’r etholaethau yma nag oedden nhw yn 2010 – yn yr achosion yma, “other” ydi Plaid Cymru ar y cyfan.
Election Forecast
Gwefan darogan arall sydd wedi denu tipyn o sylw ydi electionforecast.co.uk, sydd nid yn unig yn darogan pwy fydd yn ennill pob sedd ond yn darogan canrannau’r pleidiau, a’u siawns nhw o ennill.
Roedd eu darogan nhw wedi cyffroi nifer o gefnogwyr Plaid Cymru yn yr wythnos diwethaf, gydag awgrym eu bod nhw’n ffefrynnau i ennill mewn llefydd fel Môn, Ceredigion, Llanelli a hyd yn oed Castell-Nedd!
Os oedd hynny’n ymddangos yn afrealistig, efallai ei fod o – mae’r darogan bellach wedi newid, a hynny ar yr un pryd ag y gwnaethon nhw gyhoeddi partneriaeth gyda chwmni Five Three Eight o’r UDA i ddarogan yr etholiad.
Nawr mae darogan y ddau wefan yn reit debyg, ac maen nhw’n dod allan yr un peth a darogan May2015 a’r Guardian.
Dim seddau newydd i Blaid Cymru yn ôl hwnnw, felly, er bod disgwyl ras agos yn Ynys Môn, Arfon, Ceredigion, Brycheiniog a Maesyfed, a Gogledd Caerdydd.
Arbenigwyr Cymru?
Os ydach chi wedi cael digon ar weld beth mae’r polau cenedlaethol yn ei ddarogan, a beth fydd yn digwydd ar swing cyffredinol, beth am olwg ychydig yn wahanol ar bethau?
Mae tîm y Wales Yearbook wedi casglu panel o arbenigwyr at ei gilydd i wneud eu darogan eu hunain am Gymru (rhain sydd yn cyflwyno gwobrau gwleidyddol Cymru bob blwyddyn).
Gan ddefnyddio data’r polau a’u gwybodaeth arbenigol nhw, maen nhw hefyd wedi cynhyrchu map yn dangos beth maen nhw’n ei ddarogan ar gyfer 7 Mai.
Tair sedd maen nhw’n credu bydd yn newid dwylo – y ddwy yng Nghaerdydd mae pawb arall wedi ei ddarogan, ac Ynys Môn newid o Lafur i Blaid Cymru.
Mân wahaniaethau sydd rhwng y darogan, felly, er bod disgwyl i nifer o’r etholaethau fod yn agos. Dw i’n meddwl bod y deg sedd i wylio wnaethon ni nodi rhai misoedd yn ôl dal am fod ymysg y rhai mwyaf diddorol.
Ond ydan ni unrhyw callach ynglŷn â phwy fydd yn ennill ym mhle ar 7 Mai? Dim felly, dw i’n tybio – bydd rhaid aros tan y noson ei hun, pan fyddwn ni’n dod a’r canlyniadau yn syth i chi ar flog byw golwg360.