Mae apêl munud olaf wedi ei gyhoeddi i geisio cael mwy o bobol i lofnodi deiseb  sy’n anelu at greu polisi cenedlaethol i ddiogelu a gwarchod enwau lleoedd rhag cael eu newid i’r Saesneg.

Bwriad sefydliad Mynyddoedd Pawb yw gwneud yn siŵr fod enwau Cymreig hanesyddol – ar fynyddoedd, llwybrau, tai, neu greigiau – yn cael eu parchu gan drigolion ac ymwelwyr.

Cafodd y ddeiseb ei lansio mewn cynhadledd yng Nglan Llyn ym mis Chwefror ac mae dros 800 o bobol wedi ei llofnodi hyd yn hyn.

Yn y pen draw, y bwriad fydd perswadio Llywodraeth Cymru i ddod a’r enwau o dan reolaeth gynllunio, fel bo canolfannau awyr agored yn defnyddio’r enwau brodorol er mwyn “cyfoethogi profiad a dealltwriaeth cerddwyr”.

“Credwn y dylai enwau lleoedd ynghyd a’r dreftadaeth a’r hanes sy’n gysylltiedig â nhw, fod yn rhan annatod o gyrsiau astudiaethau’r amgylchedd mewn addysg bellach ac addysg uwch, ac o gyrsiau gweithgareddau awyr agored sy’n cael eu rhedeg gan gyrff eraill,” meddai’r ddeiseb.

“Dylid sicrhau bod cyrff hyfforddi, canolfannau a chlybiau sy’n ymwneud â mynydda a gweithgareddau awyr agored yn cael eu hannog i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg.”

Mae’r tri diwrnod ar ôl i arwyddo’r ddeiseb, cyn iddi gael ei thrafod gan swyddogion y Cynulliad.