Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio dynes yn ardal Pontypridd.
Mae Christopher May, 50, wedi ei gyhuddo o lofruddio Tracey Woodford, 47, rhwng 20-25 Ebrill.
Cafwyd hyd i’w chorff mewn fflat yn Andrews Court, Heol Rickards, y Graig ddydd Gwener diwethaf. Roedd hi wedi bod ar goll ers 21 Ebrill.
Roedd Christopher May wedi ymddangos ar gyswllt fideo yn ystod y gwrandawiad.
Bydd y gwrandawiad nesaf yn cael ei gynnal ar 21 Gorffennaf a bydd Christopher May yn cael ei gadw yn y ddalfa.