Gotyngiad yn nhwf y sector adeiladu oedd y prif reswm dros dwf llai yn y GDP
Mae twf  economi Prydain wedi arafu dros y tri mis diwethaf, a’r cynnydd yn y GDP yn waeth na’r disgwyl.

Dangosodd ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol bod y Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi tyfu o 0.3% yn chwarter cyntaf y flwyddyn.

Roedd y ffigwr wedi haneru ers diwedd 2014.

Ond mae’r economi wedi tyfu 2.4% yn fwy na’r un cyfnod y llynedd yn ôl y Swyddfa Ystadegau.

Gostyngiad yn nhwf y sector adeiladu oedd y prif reswm dros dwf llai yn y GDP. Roedd gostyngiad hefyd mewn cynhyrchiant diwydiannol.

Naw diwrnod cyn yr etholiad cyffredinol, mae arbenigwr yn credu bod y cyhoeddiad yn mynd i effeithio ar hygrededd y pleidiau sy’n honni eu bod yn gymwys i reoli’r economi.