Michelle Willis
Jamie Thomas, myfyriwr Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi bod yn sgwrsio â Michelle Willis o’r Ceidwadwyr, yr ail mewn cyfres o erthyglau i golwg360 yn holi’r ymgeiswyr yn ras etholiadol Ynys Môn…

Mae ymgeisydd Ceidwadol Ynys Môn wedi mynnu bod ganddi siawns o ennill yr etholaeth o hyd, gan ddweud nad oes ganddi ddiddordeb yn neges yr ymgeiswyr eraill.

Dyw’r Ceidwadwyr heb ennill ym Môn ers 32 o flynyddoedd, pan oedd Keith Best yn eu cynrychioli, ond fe fynnodd eu hymgeisydd eleni Michelle Willis y gallai hi greu hanes i’w phlaid unwaith eto.

Dywedodd bod dyfodol Wylfa Newydd, sicrhau’r gorau i ffermwyr a gwella cysylltiadau ffôn ar yr ynys ymysg ei blaenoriaethau.

“Rydw i’n sicr y gallaf ennill. Rydw i eisiau ennill ac ni fyddwn i’n meddwl fel arall,” meddai Michelle Willis.

‘Dim diddordeb’

Doedd Michelle Willis ddim am drafod ei gwrthwynebwyr, gan fynnu ei bod hi’n hyderus o’u trechu ac y byddai’n ceisio trosglwyddo ei amcanion cadarnhaol ei hun.

“Rydw i’n canolbwyntio’n llwyr ar fy neges bositif fy hun. Rwy’n hoffi Albert [Owen, ymgeisydd Llafur Môn sydd wedi bod yn AS ers deng mlynedd], mae o’n ddyn neis iawn.

“Dydw i ddim yn ‘nabod yr ymgeiswyr eraill, ond dydw i ddim yn canolbwyntio ar hynny. Dim ond canolbwyntio ar gynhyrchu ymgyrch bositif i mi fy hun fyddai.

“Does gen i ddim diddordeb o gwbl yn yr hyn mae’r ymgeiswyr eraill yn ei wneud neu ddim yn ei wneud.”

Cefnogi Wylfa B

Un o’r materion allweddol fydd yn sicr o fod yng nghefn meddwl pob pleidleisiwr ar Ynys Môn fydd Wylfa Newydd – mae’r ymgeisydd Ceidwadol yn dweud ei bod yn cefnogi ail atomfa niwclear ar yr ynys.

“Rydw i o blaid Wylfa, yn bendant,” meddai. “Mae’n dda cael Wylfa fel rhan fawr o’r cyfleoedd ynni sydd gennym ar yr ynys, ond tu hwnt i hynny yw’r agwedd creu swyddi sydd yn hynod o bwysig.”

Nododd Willis, sydd wedi bod yn nyrs yn y gymuned ar Ynys Môn am 17 mlynedd, ei bod yn teimlo bod sefyll i fod yn Aelod Seneddol yn “ddilyniant naturiol” iddi, gan gyfaddef bod rhwystredigaeth â gwleidyddiaeth wedi bod yn ffactor.

Ffermwyr a ffonau

Yn ogystal â’r pwerdy niwclear mae Michelle Willis, gafodd ei magu yn Rhoscolyn, wedi rhestru nifer o “flaenoriaethau” y mae’n gobeithio eu gweithredu petai hi’n cael ei hethol.

Mae’n cynnwys gweithio am fargen well i ffermwyr ar yr ynys wrth werthu eu cynnyrch, a gwella cysylltiadau ffôn symudol ar yr ynys.

“Yn bendant byddwn i’n hoffi meddwl y gallaf gyflawni popeth dw i wedi a nodi [yn fy mhamffledi etholiadol] – rwy’n berson naturiol prysur, felly byddaf yn fwy na pharod i ddelio â faint o waith y mae’n ei olygu,” meddai Michelle Willis.

“Mae’n rhaid i ni hyrwyddo agwedd bositif am yr hyn sydd gennym, yn ymladd am y ffermwyr, cael prisiau gwirioneddol dda am eu cynnyrch, gan eu hysbrydoli i redeg eu ffermydd fel busnesau i gael y gorau ar gyfer yr hyn y maent yn ei gynhyrchu.

“O ran ffonau symudol, nid yw 21% o Ynys Môn yn cael unrhyw signal ffôn o gwbl. Mae’n bwysig mewn gwirionedd bod gennym y cyfleusterau hyn yn yr ystyr cyffredinol hefyd wrth gwrs – mae’n seilwaith sylfaenol.

“Rydw i’n siŵr bod pobl o Hitachi sy’n dod i ymweld â Wylfa wedi arfer cael signal ffôn ym mhob man ac felly mae’n rhaid ei fod yn sioc iddyn nhw pan na allan nhw ei gael ar Ynys Môn.”

Herio’r pleidiau eraill

Ar y funud mae sedd Ynys Môn yn nwylo Llafur, gyda Phlaid Cymru’n cael eu gweld fel cystadleuwyr difrifol a UKIP hefyd ar gynnydd yn yr etholaeth.

Pwysleisiodd ymgeisydd y Ceidwadwyr y byddai hi felly yn pwysleisio beth oedd hi’n ei gynnig yn hytrach nag edrych ar ddarlun cenedlaethol ei phlaid.

“Mae’n bosibl y gallai’r hyn sy’n cael ei wneud yn Llundain effeithio arna i yma, ond yn hytrach nag edrych ar y Ceidwadwyr yn ei gyfanrwydd, gallaf roi cynrychiolaeth gref iawn i’r ynys a’i phobl,” mynnodd Michelle Willis.

Bydd Jamie Thomas siarad â’r holl ymgeiswyr eraill yn etholaeth Ynys Môn yn ystod yr ymgyrch.

Gallwch ddarllen am ei sgwrs â’r ymgeisydd UKIP Nathan Gill yma.