Mae undeb Usdaw wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg sy’n dangos bod 14 o weithwyr siopau yng Nghymru yn cael eu cam-drin bob diwrnod – sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.

Dengys yr arolwg bod 30% o weithwyr siop wedi eu bygwth gan gwsmeriaid a thros eu hanner wedi eu cam-drin yn llafar.

“Yn rhy aml o lawer nid yw troseddwyr sy’n cam-drin staff yn cael eu hanfon i lys barn, ac mae’r rheiny sy’n cael eu herlyn yn derbyn dedfrydau pitw,” meddai John Hannett, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Usdaw – Union of Shop, Distributive and Allied Workers.

Yr arolwg

Bu undeb Usdaw yn ffonio gweithwyr siop yng Nghymru fis Tachwedd i holi am eu profiadau dros y 12 mis diwetha’, a dyma’r canlyniadau:

Trosedd                    Cymru            Prydain

Ymosod                          3.4%               3%

Bygwth                           30.5%             33%

Cam-drin llafar               55.5%             56%