Mae banc HSBC yn ystyried symud ei bencadlys o Lundain, meddai’r cadeirydd Douglas Flint heddiw.
Dywedodd fod y banc yn ymateb i newidiadau strwythurol yn y diwydiant yn sgîl y chwalfa ariannol.
Mae’r bwrdd wedi gofyn i reolwyr HSBC edrych ar “lle fyddai’r safle gorau i leoli pencadlys HSBC yn yr amgylchfyd newydd”.
Ychwanegodd llefarydd ei bod hi’n rhy fuan i ddweud faint o amser fydd y penderfyniad yn ei gymryd.
Mae’r rhan fwyaf o fusnes HSBC yn digwydd yn Asia ond mae’r pencadlys wedi bod ym Mhrydain ers 1992.