Malcolm Walker
Mae pennaeth un o gwmnïau mwyaf Cymru wedi rhybuddio y byddai cannoedd o swyddi mewn peryg os na fyddai’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol ymhen pythefnos.

Yn ôl Prif Weithredwr cwmni Iceland Malcolm Walker, byddai newid cyfeiriad gwleidyddol ar ôl y 7fed o Fai yn “rhoi’r hyn sydd wedi ei gyflawni o ran twf yr economi mewn peryg”.

Mae pennaeth Iceland –  sydd â’i bencadlys yng Nglannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint –  yn un o 100 o arweinwyr busnes sydd wedi arwyddo llythyr agored yn gynharach y mis hwn yn cefnogi polisïau Ceidwadol.

Deall anghenion

Dywedodd Malcolm Walker bod angen i Lywodraeth Prydain “ddeall a chefnogi anghenion busnesau, darparu sefydlogrwydd economaidd, rhoi twf wrth galon ei chynlluniau a chreu amgylchiadau i helpu busnesau i ffynnu – fel trethi is”.

“Rwy’n credu bod troi cefn ar yr hyn rydym wedi gweithio tuag ato dros y bum mlynedd ddiwetha’ yn gamgymeriad,” ychwanegodd.

Fe fydd pennaeth Iceland yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn ddiweddarach heddiw.

‘Cynllun gwell’

Yn ymateb i’r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur bod ganddyn nhw “gynllun gwell”.

“Mae cyflogau wedi syrthio ac mae biliau trydan wedi codi, felly nid yw’r rhan fwyaf o deuluoedd yn gweld cynnydd.

“Mae gan Lafur gynllun gwell – rydym yn gwybod bod llwyddiant ymysg pobol sy’n gweithio yn golygu llwyddiant i Brydain a Chymru hefyd.”