Prifysgol Abertawe
Mae myfyrwyr yn Abertawe yn byw mewn ardaloedd sydd ag un o’r lefelau trosedd uchaf o unrhyw dref prifysgol ym Mhrydain, yn ôl ymchwil newydd.
Fe edrychodd gwefan StuRents ar faint o droseddau oedd yn cael eu cofnodi am bob mil person mewn 64 ardal yng Nghymru a Lloegr ble mae myfyrwyr yn byw.
Daeth Abertawe’n ail ar y rhestr o droseddau bob mil person yn yr ardal, gyda dim ond Brighton yn gweld mwy o droseddau yn cael eu cofnodi.
Ond roedd newyddion gwell i fyfyrwyr rhai o golegau eraill Cymru, gyda’r gyfradd troseddu yn Aberystwyth ymysg yr isaf ym Mhrydain.
Cyfraddau Cymru
Cafodd yr ymchwil ei wneud yn seiliedig ar ystadegau troseddu rhwng Chwefror 2014 ac Ionawr 2015, gan ddangos bod 633.1 o droseddau yn cael eu cofnodi yn Abertawe am bob mil person oedd yn byw yn yr ardal.
Roedd cyfradd Abertawe ddwywaith a hanner yn fwy na’r cyfartaledd o 248 yng Nghymru a Lloegr ymysg ardaloedd ble roedd myfyrwyr yn byw.
Roedd cyfraddau ardaloedd myfyrwyr Wrecsam (240.6), Caerdydd (237.1) a Chasnewydd (233) i gyd yn disgyn ychydig o dan y cyfartaledd hwnnw.
Dim ond 181.2 oedd cyfradd troseddu ardaloedd llety myfyrwyr Bangor, tra bod Aberystwyth yn edrych fel y lle saffaf yng Nghymru i fod yn fyfyriwr gyda chyfradd troseddu o 132.8, y 12fed isaf o’r trefi oedd yn rhan o’r ymchwil.
Risg i fyfyrwyr?
Yn ôl ymchwil StuRents, roedd yr ardaloedd yn Abertawe ble mae myfyrwyr yn byw yn dod i’r brig pan mae’n dod at droseddau yn ymwneud â chyffuriau.
Wolverhampton oedd yr ardal gyda’r gyfradd fwyaf o ladrata, tra bod Caergrawnt yn uwch na Rhydychen o ran cyfraddau dwyn beiciau.
Dangosodd yr ymchwil hefyd bod y gyfradd troseddu ar gyfer ardaloedd myfyrwyr Prydain ddwywaith a hanner yn uwch na’r gyfradd gyfartalog o 99 ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol.
“Mae ystadegau troseddu yn fesur pwysig i fyfyrwyr pan mae’n dod at ddewis ble i fyw,” meddai Michael Rainsford o StuRents.com.
“Mae ein hymchwil ni wedi darganfod yr ystadegau pryderus bod myfyrwyr yn byw mewn ardaloedd sydd â chyfraddau trosedd 2.5 gwaith yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol.
“Eleni mae tipyn o fuddsoddi wedi bod yn y farchnad llety myfyrwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd diogelwch myfyrwyr yn uchel ar yr agenda o hyn ymlaen.”