Arthur Scargill
Bydd y Blaid Lafur Sosialaidd yn lansio’i maniffesto ym Mhort Talbot heddiw ac mae disgwyl i’r arweinydd Arthur Scargill alw am weld “diwedd i gyfalafiaeth.”
Mae gan y Blaid Lafur Sosialaidd wyth ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai, a bydd pob un ohonynt yn sefyll mewn etholaethau yng Nghymru.
Mae’r ymgeiswyr yn cynnwys Andrew Jordan yn Aberafan; Liz Screen yn Ynys Môn; Kathrine Jones yn Arfon; Bob English yng Ngorllewin Clwyd; Chris Beggs yn Nyffryn Cynon; Shangara Singh yn Nwyrain Casnewydd; Damien Biggs ym Mhontypridd; a Dr John Cox yn Nhorfaen.
Yn ei ragair i’r maniffesto, dywedodd Arthur Scargill fod polisïau ei blaid yn gwbl wahanol i unrhyw blaid wleidyddol arall oherwydd nad ydyn nhw’n “seiliedig ar gadw system hen ffasiwn, llwgr, gyfalafol.”
Treth incwm
Mae polisïau plaid cyn arweinydd y glowyr yn galw am gyfradd uchaf o 90% o dreth ar gyflogau dros £300,000 a bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn arbed £170 biliwn y flwyddyn.
Mae’r Blaid Lafur Sosialaidd hefyd yn galw am doriad mewn gwariant amddiffyn, gwladoli’r system drenau, a threth newydd ar elw banciau.
Meddai Arthur Scargill: “Mae’r Blaid Lafur Sosialaidd am weld byd heb ryfel, yn rhydd o angen ac yn rhydd o ormes. Rydym eisiau’r hawl i ryddid ymgynnull, lleferydd a chymdeithas. Rydym am weld byd sy’n hyrwyddo ac yn amddiffyn yr amgylchedd ac adnoddau’r ddaear, nid yn unig ar gyfer bodau dynol ond ar gyfer pob math arall o fywyd hefyd.
“Mae ein plaid am weld byd sydd mewn hedd â rhyddid, cyfiawnder a ffyniant i bawb, ac yn anad dim, rydym eisiau byd Sosialaidd. Rydym am weld breuddwydion a dyheadau pawb a fu’n ymladd dros hawliau a rhyddid yn dod yn realiti; byd ble mae arweinwyr yn atebol i’r bobl yn gyffredinol.”