Carwyn Jones
Fe fydd deg prosiect technolegol yn elwa o bron i £270,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg drwy dechnoleg a chyfryngau digidol.
Yn sgil y cyllid fe fydd apiau newydd yn cael eu datblygu a fydd yn rhoi mynediad i eiriadur hanesyddol Prifysgol Cymru; yn helpu pobol gyda’u treigladau; ac yn ffrydio cerddoriaeth Gymraeg.
Bydd y prosiectau hefyd yn creu gwasanaeth dwyieithog ar gyfer rheoli digwyddiadau a gwerthu tocynnau ac yn datblygu themâu WordPress dwyieithog.
‘Prosiectau arloesol’
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei bod hi’n “bwysig” bod y dechnoleg a’r cyfryngau digidol diweddaraf ar gael yn y Gymraeg.
“Mae’r grant wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol ers ei lansio yn 2013 ac rydyn ni wedi gweld nifer o brosiectau arloesol a phoblogaidd yn cael eu datblygu ledled Cymru.
“Bydd y cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar hyn gan ddarparu mwy byth o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.”
Datblygu
Y deg prosiect sydd wedi derbyn cyllid o dan gynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16 yw:
- Canolfan Peniarth – Ap Treiglo (£15,795). Ap i helpu pobl gyda’u treigladau;
- Moilin Cyf. – Tocyn Cymru (£35,000). I greu gwasanaeth dwyieithog ar gyfer rheoli digwyddiadau a gwerthu tocynnau;
- Uned Dechnoleg a Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor – seilwaith cyfathrebu Cymru (£45,000). Gosod y sylfeini ar gyfer pob math o dechnolegau cyfathrebu ffynhonnell agored Cymraeg yn rhad ac am ddim, gan gynnwys trawsgrifio, gorchymyn a rheoli â llais, ateb cwestiynau, a chyfieithu drwy dechnoleg siarad dwy ffordd;
- Uned Ymchwil Hypergyfryngau Prifysgol De Cymru – pecyn cymorth iaith naturiol Cymru (£32,000). Pecyn yn dadansoddi iaith naturiol Cymru;
- Gwe Cambrian Web – Themâu WordPress Dwyieithog (£11,392). I ddatblygu themâu WordPress dwyieithog newydd;
- Recordiau Sain – ApSain (£30,000). Gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth newydd gan label cerddoriaeth Gymraeg Sain;
- Prifysgol Cymru – Ap Geiriadur Prifysgol Cymru (£40,500). Apiau Android ac Apple newydd ar gyfer y geiriadur hanesyddol;
- Cwmni Da – GêmTube (£25,000). Prosiect hyfforddi wedi’i leoli yng Nghaernarfon lle bydd pobl ifanc yn dysgu creu a chyhoeddi sylwebaeth Gymraeg ar gemau ar gyfer YouTube;
- Coleg Meirion Dwyfor – Hyfforddiant creu apiau Android (£15,294). Cynllun hyfforddi’r hyfforddwyr lle mae myfyrwyr yn y coleg addysg bellach yn dysgu creu a chyhoeddi ap Android ac yna’n mynd ymlaen i addysgu myfyrwyr iau mewn ysgolion lleol i wneud yr un fath;