Gŵyl Rhif 6
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi eu trydydd prif artist am eleni – y grŵp pop-electro Metronomy.

Fe fydd y grŵp o Loegr yn ymuno a Grace Jones a Belle & Sebastian ym Mhortmeirion ar 3, 4 a 5 Medi.

Cyhoeddwyd heddiw y bydd y DJ Mark Ronson a’r band British Sea Power hefyd yn perfformio yn yr ŵyl, sydd wedi sefydlu ei hun fel yn o brif wyliau bach Prydain erbyn hyn.

Fe wnaeth bron i 14,000 o bobol heidio i’r pentref Eidalaidd ger Porthmadog bob nos y llynedd ac mae’r trefnwyr yn gobeithio am yr un llwyddiant eleni:

“Rydym yn andros o falch o’r artistiaid  eleni, un o’r gorau a’r mwyaf amrywiol erioed ac mae mwy o artistiaid eto fyth i’w cyhoeddi,” meddai cyfarwyddwr yr ŵyl Luke Huxham.

Bydd llwyfan Cymraeg yno unwaith eto yn ogystal â pherfformiadau yng nghoedwig Portmeirion ac mewn lleoliadau gwahanol.