Mae dyn o Lundain a gyfrannodd at rai o raglenni teledu mwyaf poblogaidd S4C wedi marw’n 74 oed yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Fe weithiodd Lewis Fawcett fel golygydd ffilm a fideo ar nifer o gynyrchiadau gan gynnwys y rhaglenni dogfennol Almanac a chyfresi drama fel Minafon a C’mon Midffild.
Roedd wedi dysgu ei grefft fel golygydd yn Llundain a daeth i Gymru gyntaf i weithio i gwmni HTV yng Nghaerdydd. Symudodd i Gaernarfon i weithio i Ffilmiau’r Nant pan sefydlwyd S4C ar ddechrau’r 1980au.
Fe fu Alun Ffred Jones, sydd bellach yn Aelod Cynulliad Arfon, yn gweithio gyda Lewis Fawcett fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr nifer o’r rhaglenni.
‘Storïwr heb ei ail’
Mewn teyrnged iddo, dywedodd: “Roedd Lewis yn gymeriad gwybodus, yn gwmnïwr diddan a storïwr heb ei ail. Mi ddysgodd ddigon o Gymraeg i weithio ar raglenni yn yr iaith er na ddaeth erioed i’w siarad yn rhugl.
“Roedd ganddo Saesneg posh oedd yn gwneud iddo swnio’n ffroenuchel ar y cyfarfyddiad cyntaf, ond roedd yn gas ganddo snobyddiaeth o unrhyw fath ac roedd o ar y chwith yn wleidyddol. Roedd hynny i raddau yn ganlyniad i dreulio cyfnod yn Sbaen pan oedd o’n ifanc, a dod i adnabod pobl oedd wedi ymladd yn erbyn Franco yn y rhyfel cartref yn y 1930au.
“Mi ddysgodd Sbaeneg yr adeg honno, ac aeth yn ôl i Sbaen am gyfnod byr ar ôl ymddeol, ond yn ôl i Gymru y daeth o, i fyw yn y Felinheli.”
Ychwanegodd: “Roedd o wedi gwneud ei brentisiaeth fel golygydd ffilm efo cwmnïau bach annibynnol yn Soho ac roedd o’n hollol broffesiynol a chydwybodol yn ei waith. Gweithio ar ffilm oedd ei bleser mawr ond mi addasodd yn dda ar gyfer fideo adeg y chwyldro digidol. Mi fydd colled fawr ar ei ôl.”