Mae sefydlu ail bafiliwn llai ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn un o’r awgrymiadau gafodd eu trafod mewn cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Ar ôl cynnal adolygiad annibynnol o drefn y cystadlu, roedd aelodau o Gyngor yr Eisteddfod yn trafod yr awgrymiadau – gyda’r bwriad o gynyddu cynulleidfaoedd a phoblogrwydd y Brifwyl.

Pe bai’r syniad o ail bafiliwn yn cael ei gymeradwyo, byddai rhai cystadlaethau yn cael eu symud o’r prif bafiliwn i’r pafiliwn siambr newydd – ond mae’r Eisteddfod wedi pwysleisio mai dim ond awgrym yw’r syniad ar hyn o bryd.

Cystadlaethau corawl

Roedd aelodau o’r cyfarfod hefyd yn trafod newid i gystadlaethau corawl yr Eisteddfod – fyddai’n golygu nad oes uchafswm yn cael ei osod ar nifer yr aelodau mewn Corau Meibion a Chorau Cymysg.

Yr unig ofyniad fyddai cael o leiaf 20 aelod ac mae hyn, yn ôl yr Eisteddfod, yn dilyn esiampl gwyliau corawl eraill ar draws y byd.

Bydd y newid hwn yn dod i rym yn Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau’r flwyddyn nesa.

Mae’r awgrymiadau yn dilyn adroddiad annibynnol manwl gan y cerddor Sioned Webb ar drefn cystadlu’r Brifwyl.

‘Angen trafod ymhellach’

Dywedodd Gwenllian Carr, pennaeth cyfathrebu’r Eisteddfod Genedlaethol ar Taro’r Post:

“O ran cyflwyno’r newidiadau, mae nifer fawr ohonyn nhw angen dipyn mwy o drafod. Bydd rhai yn dod i mewn y flwyddyn nesa…ond mae hi’n broses hir – ‘da ni ddim yn gwybod os fydd popeth yn gweithio eto ac fe fydd llawer mwy o drafod yn digwydd.

“Da ni’n edrych ar gyflwyno rhai – darparu awyrgylch groesawgar yng nghefn y llwyfan a newid uchafswm y corau – erbyn y flwyddyn nesaf.

“Ambell i gystadleuaeth fydd mewn lle gwahanol – da ni am dreialu cystadlaethau yn y Tŷ Gwerin a…’da ni’n edych ar greu pentref cystadlu ond wrth gwrs, y Pafiliwn fydd y prif le cystadlu.

“Mae’n gynulleidfa draddodiadol, y gynulleidfa graidd yn ofnadwy o bwysig i ni – a doedden ni ddim isio gwneud dim heb drafod hefo nhw gyntaf. Mae nifer fawr o gyfarfodydd wedi eu cynnal o fewn yr adolygiad.

“Beth ydan ni’n edrych am wneud ydy symud i fod fel llawer o gystadlaethau corawl – fe fyddan nhw’n cael eu cynnal ar sail safon yn hytrach na niferoedd.

“Gobeithio y bydd mwy o gystadlu a chystadlaethau mwy deinamig.”