Hyfforddwraig frwd o Llandybie, Sir Gâr, fydd yn derbyn Medal Goffa Syr T H Parry-Williams yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae’r Fedal, er cof am y bardd enwog, yn cael ei chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Mae Jennifer Maloney yn adnabyddus i genedlaethau o Eisteddfodwyr ardal Sir Gâr, ac yn arbennig y rheini sy’n byw yn ardal Rhydaman.  Dywed yr Eisteddfod fod ei gwaith wedi bod yn allweddol wrth hybu’r iaith a diwylliant Cymraeg yn yr ardal, a hyn oll yn waith gwirfoddol am flynyddoedd lawer.

Hi a sefydlodd Aelwyd Penrhyd bron i ddeugain mlynedd yn ôl yn 1976, aelwyd sy’n  parhau i fynd o nerth i nerth, gyda thros 70 o blant lleol o 4 oed hyd at 19 oed ynddi.

Mae cysylltiad Jennifer Maloney â’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd yn ôl i 1970, pan gafodd ei dewis fel Cyflwynydd y Flodeuged pan oedd y Brifwyl yn Rhydaman.

“Yn ddi-os, mae Jennifer wedi rhoi blynyddoedd lawer o wasanaeth i’r Pethe yn ei milltir sgwâr, a thrwy’i gwaith, mae unigolion, grwpiau a phartïon o’r ardal wedi mwynhau llwyddiant ar lwyfannau’r ardal a chenedlaethol,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.  “Mae ei brwdfrydedd a’i chyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T.H. Parry-Williams.”

Bydd yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod o 1-8 Awst eleni.