Bydd cyfraniad gydol oes dyn o Lanuwchllyn i wyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gydnabod gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mel Williams, athro wedi ymddeol, yw enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau.

Mae’n awdur toreithiog, a chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith o sicrhau llwyfan canolog i wyddoniaeth a thechnoleg ar Faes yr Eisteddfod, gan drefnu arddangosfa’r Gymdeithas Wyddonol yn yr Eisteddfod o 1973-75, a gweithredu fel Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth y Brifwyl yn ardal Maldwyn yn 1981.

Bywydeg yw maes Mel Williams, ac fe wnaeth lawer i ddatblygu’r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg fel aelod o Banel Termau Gwyddonol CBAC, ac fel Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth y Cyd-Bwyllgor ar ddechrau’r 90au.

Yn ogystal â’i ddiddordeb a’i arbenigedd mewn gwyddoniaeth, bu Mel Williams yn adnabyddus i Gymru gyfan fel golygydd cylchgrawn ‘Y Casglwr’ o 1988-2012.

Bydd yn debyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod ym Meifod fis Awst.