Gydag ychydig dros 100 diwrnod i fynd cyn cychwyn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, mae manylion cyngherddau nos y Pafiliwn ar y Maes wedi cael eu cyhoeddi.
Bydd gweithgareddau’r wythnos yn cychwyn gyda pherfformiad cyntaf ‘Gwydion’, sioe newydd Cwmni Theatr Maldwyn, nos Wener 31 Gorffennaf.
Croeso Corawl yw teitl cyngerdd nos Sadwrn, gydag Elin Fflur, Joshua Mills, Bois y Steddfod a chorau cymunedol yr ardal. Ynghyd â hen ffefrynnau ac ambell gân newydd, fe fydd yn cynnwys medli arbennig i ddathlu cyfraniad Rhys Jones i gerddoriaeth Cymru.
Bydd y Gymanfa Ganu fel arfer ar y nos Sul, Noson Lawen Maldwyn a’r Gororau nos Lun, noson o ganu gwerin nos Fawrth, a noson o gerddoriaeth ffilm a theledu.
Bydd cystadlaethau’r Eisteddfod yn parhau i’r hwyr nos Fercher a nos Wener.
Bydd tocynnau ar gyfer y cyngherddau a thocynnau maes ar gael o 09.00 fore Mercher nesaf, a gellir eu harchebu drwy wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.org.uk neu drwy ffonio’r linell docynnau ar 0845 4090 800.